Skip to main content
CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU

By Chris Jones

Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔




Available on
Apple Podcasts Logo
Google Podcasts Logo
Overcast Logo
Pocket Casts Logo
RadioPublic Logo
Spotify Logo
Currently playing episode

CYMERIADAU CYMRU: RHIF 4: ALED HALL

CYMERIADAU CYMRUOct 22, 2020

00:00
38:23
CYMERIADAU CYMRU: GWAWR EDWARDS-PHILLIPS

CYMERIADAU CYMRU: GWAWR EDWARDS-PHILLIPS

Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu.

Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!

Jun 25, 202343:30
CYMERIADAU CYMRU: MARI GRUG

CYMERIADAU CYMRU: MARI GRUG

Fi'n nabod Mari Grug ers rhai blynyddoedd bellach, y ddau ohonom ni ar un tro yn rhan o'r tîm tywydd ar S4C, y tîm gorau yn fy marn i (gydag Erin Roberts). Erbyn hyn wrth gwrs mae Mari yn un o wynebau cyfarwydd y sianel ac yn gyflwynwraig naturiol a thalentog ac roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi am bopeth dan haul.....a choeliwch chi fi, ma hi yn gallu sgwrsio!!!😂

Jun 18, 202348:34
CYMERIADAU CYMRU: PHIL WYMAN

CYMERIADAU CYMRU: PHIL WYMAN

Yn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo’n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.

Jun 11, 202346:36
CYMERIADAU CYMRU: ELIN PRYDDERCH

CYMERIADAU CYMRU: ELIN PRYDDERCH

Elin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com

Jun 04, 202339:37
CYMERIADAU CYMRU: MILLIE-MAE ADAMS (MISS CYMRU 2023)

CYMERIADAU CYMRU: MILLIE-MAE ADAMS (MISS CYMRU 2023)

Yn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!

May 21, 202334:11
CYMERIADAU CYMRU: HELEDD FYCHAN, AS

CYMERIADAU CYMRU: HELEDD FYCHAN, AS

I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli’r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!

May 14, 202346:25
CYMERIADAU CYMRU: CEFIN ROBERTS

CYMERIADAU CYMRU: CEFIN ROBERTS

Polymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !

Apr 30, 202301:01:18
CYMERIADAU CYMRU: EZZATI ARAFFIN

CYMERIADAU CYMRU: EZZATI ARAFFIN

Croeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.

Apr 23, 202330:48
CYMERIADAU CYMRU: RICHARD ELIS

CYMERIADAU CYMRU: RICHARD ELIS

Maint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.

Apr 02, 202343:57
CYMERIADAU CYMRU: BECA BROWN

CYMERIADAU CYMRU: BECA BROWN

Dim rhyw lawer o bobl sy di gweithio mewn cymaint o feysydd â fy ngwraig arbennig iawn wythnos hon. Teledu, radio, papurau newydd, cylchgronau, dysgu a gwleidyddiaeth. Beca Brown yw un o'r bobl fwyaf amryddawn a deallus dwi di gyfarfod ac mi wnes i fwynhau clywed am ei bywyd, ei magwraeth, ei gyrfaoedd amrywiol a'i newid cyfeiriad i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd Plaid Cymru yng nghyngor Sir Gwynedd. Lot o sgwrsio diddorol am lot o bynciau.

Mar 26, 202345:38
CYMERIADAU CYMRU: NEIL ROSSER

CYMERIADAU CYMRU: NEIL ROSSER

Un o ddylanwadau cerddorol mwyaf Cymru sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Mae Neil Rosser yn ganwr ac yn gyfansoddwr ac yn un o hoelion wyth y sîn gerddorol Gymraeg a phleser odd cael clywed am ei yrfa, ei gerddoriaeth, dylanwadau, chwarae'n fyw a llawer mwy. A chofiwch chwilio am gigs a cherddoriaeth Pwdin Reis!

Mar 19, 202343:45
CYMERIADAU CYMRU: LLIO MILLWARD

CYMERIADAU CYMRU: LLIO MILLWARD

Dwi wrth fy modd yn siarad â phobl talentog a chreadigol a phobl sy'n dilyn cyfeiriad ei hunan. Mae Llio Millward wedi bod yn actores (cofio 3 chwaer?) ac yn gantores ers cryn dipyn erbyn hyn ac wrthi'n recordio ac yn perfformio yn Llundain. Nes i wir fwynhau ein sgwrs ar y podlediad yn ddiweddar, yn trafod ei gyrfa, cerddoriaeth, byw yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain, ei thad Teddy, ei henw, The Crown, a llawer mwy. Diolch o galon iddi am fod mor onest a chofiwch ar y penodau i gyd ar Spotify. (ac ewch i wrando ar gerddoriaeth Llio ar Spotify hefyd)

Mar 12, 202349:27
CYMERIADAU CYMRU: LAURA WYN

CYMERIADAU CYMRU: LAURA WYN

Felly pwy sy'n neud yoga? Pwy sydd wedi meddwl neud yoga ond heb fentro? Athrawes yoga Laura Wyn sy'n siarad â fi ar y bennod nesaf o Cymeriadau Cymru ac i ni'n siarad am ei bywyd diddorol hi, ei dylanwadau, iechyd meddwl a chorfforol, ac wrth gwrs, am yoga! Braf yw cael sgwrsio â phobl neis a braf iawn oedd dod i nabod Laura.

Mar 05, 202343:39
CYMERIADAU CYMRU: DYLAN CERNYW

CYMERIADAU CYMRU: DYLAN CERNYW

Rhywun sydd ar frig ei fyd, yw'r telynor Dylan Cernyw a braf oedd cael siarad â fe yn ddiweddar, o'i gartref, am ei yrfa, ei fagwraeth, telynorion a cherddoriaeth, ei ddylanwadau ac wrth gwrs, am y delyn. Pennod newydd o Cymeriadau Cymru gyda thalent byd enwog. 

Feb 26, 202338:32
CYMERIADAU CYMRU: MIRAIN IWERYDD

CYMERIADAU CYMRU: MIRAIN IWERYDD

Merch o Grymych yn wreiddiol yw Mirain Iwerydd ond bellach yn gwneud enw iddi hun ar Radio Cymru (1 a 2) yn cyflwyno sioeau cerddoriaeth ac roedd hi'n braf i gael siarad gyda hi yn ddiweddar am ei magwraeth, clwb ffermwyr ifanc, ei gyrfa, dylanwadau a chyflwyno, yn ogystal â lot o hwyl yn ateb y 10 cwestiwn chwim a'r cwis. Cadwch lygad mas am Mirain. Ma hon yn mynd i fod yn enw i'r dyfodol!

Feb 19, 202330:03
CYMERIADAU CYMRU: Meinir Howells (Ffermio!)

CYMERIADAU CYMRU: Meinir Howells (Ffermio!)

Un o'r bobl fwyaf ffeind a gweithgar ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar S4C sy'n wraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Meinir Howells neu i nifer, Meinir Ffermio. Yn ffarmwraig frysur, yn fam ac yn wraig yn ogystal ag un o gyflwynwyr y gyfres Ffermio, mi roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi, a ninnau'n nabod ein gilydd ers blynyddoedd bellach. Sgwrs gwbl naturiol am ei gyrfa, magwraeth, cyflwyno, Brexit, Mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth gwrs, ffermio!  Hefyd, cwis a 10 cwestiwn a lot o hwyl gydag yffach o gymeriad!

Feb 12, 202343:47
CYMERIADAU CYMRU: BETHANY DAVIES

CYMERIADAU CYMRU: BETHANY DAVIES

Merch ifanc o Lanelli sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon. Mae Bethany Davies wedi dod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar TIK TOK yn arbennig. Mae ei fideos hi yn hybu'r iaith a Chymru yn gyffredinol ac wedi ennill dilyniant anferth a thipyn o sylw yn y wasg. Merch hynod o ffeind ac roedd hi'n bleser i siarad â hi am ei magwraeth, yr iaith Gymraeg, a'i thaith ar Tik Tok! Fel dwi'n dweud pob wythnos, dwi mor lwcus i fedru siarad â phobl neis!

Feb 05, 202334:01
CYMERIADAU CYMRU: IWAN BALA

CYMERIADAU CYMRU: IWAN BALA

Artist sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon, sydd wrthi'n creu, yn dylanwadu ac yn gwerthu ers peth amser. Iwan Bala yw un o'r artistiaid mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru ac roedd hi mor ddiddorol i siarad efo fo am ei waith, ei broses o greu, ei yrfa gynnar, dylanwadau a llawer mwy. 

Jan 29, 202342:50
CYMERIADAU CYMRU: ELIN PARISA FOULADI

CYMERIADAU CYMRU: ELIN PARISA FOULADI

Talent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.

Jan 22, 202338:09
CYMERIADAU CYMRU: YWS GWYNEDD

CYMERIADAU CYMRU: YWS GWYNEDD

Blwyddyn newydd dda i chi gyd a gobeithio bod pawb yn iach ac yn edrych ymlaen at 2023!? A pha well i ddechrau tymor newydd o Cymeriadau Cymru na gyda fy ngŵr gwadd arbennig iawn. Y cerddor, canwr a chyfansoddwr ac un o'r bobl fwyaf clên dwi erioed di siarad efo, Yws Gwynedd! ...ie, go iawn, y lej Yws Gwynedd!!!! Sgwrs wych am ei fagwraeth, ei yrfa, cerddoriaeth, canu a gigio a phêl droed...lot o bêl droed!😁. Ac wrth gwrs, am y gân orau erioed, Sebona fi! Mwynhewch!

Jan 15, 202345:37
CYMERIADAU CYMRU: GERAINT LLOYD

CYMERIADAU CYMRU: GERAINT LLOYD

I orffen 2022, mae'n bleser dweud mai'r darlledwr Geraint Lloyd sydd ar y podlediad, ym mhennod ola'r flwyddyn. Wel, fi'n dweud darlledwr, ond wrth gwrs, nid bellach. Ar ôl cael ei ollwng gan Radio Cymru, yn dilyn 25 mlynedd o ddarlledu, sioc enfawr iddo fe a'i ddilynwyr a gwrandawyr oedd y newyddion. Hon yw'r sgwrs go iawn gyntaf iddo ei wneud am yr holl helynt a'r siom a braf oedd cael ei gwmni. I ni'n trafod ralio, mudiad y ffermwyr ifanc, theatr Felinfach, darlledu, gyrru bws ac wrth gwrs, ei yrfa yn darlledu.

Dec 18, 202244:22
CYMERIADAU CYMRU: RHODRI OGWEN WILLIAMS

CYMERIADAU CYMRU: RHODRI OGWEN WILLIAMS

Gyda chwpan y byd ar fin dod i ben yn Qatar, dwi di penderfynu ail lwytho cyfweliad â rhywun sy'n byw  ac yn gweithio allan yn y wlad honno ac yn frysur ar hyn o bryd gyda'r holl gemau a'r darlledu yno, sef Rhodri Ogwen Williams. Yn wreiddiol o'r Bari, mae Rhodri bellach yn byw yn Doha ers rhai blynyddoedd ac fe ges i'r cyfle i glywed am ei waith a'i yrfa a'i fywyd yn y Dwyrain Canol yn Qatar. Sut wlad yw hi?

Dec 11, 202201:12:43
CYMERIADAU CYMRU: RHYS MWYN

CYMERIADAU CYMRU: RHYS MWYN

Wel, eicon go iawn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Cerddor, sylfaenydd, gwr busnes, cyflwynydd ac arweinydd teithiau cerdded...neb llai na Rhys Mwyn! Pleser oedd cael clywed am ddyddiau cynnar Rhys fel un o'r 'punks' cyntaf yng Nghymru ac un o ddylanwadau pwysicaf ym myd cerddoriaeth Cymru. Ac oedd hi mor ddiddorol clywed am y band Anrhefn, y sîn gerddoriaeth, teithiau cerdded, archaeoleg, punk rock, teithio gyda'r band a llawer mwy. Diolch o galon am ei amser a'i onestrwydd. 

Dec 04, 202256:36
CYMERIADAU CYMRU: BERWYN ROWLANDS

CYMERIADAU CYMRU: BERWYN ROWLANDS

Cynhyrchydd, actifydd, rheolwr a sylfaenydd a gwr dylanwadol dros ben, Berwyn Rowlands, sydd ar y podlediad wythnos hon. Sgwrs hynod o ddifyr ag onest am fywyd Berwyn, ei ddylanwadau, ei waith a'i holl gyflawniadau, The Iris Prize, yr 80'au, Sgrîn, a llawer llawer mwy. Mae'n bleser cael rhywun fel Berwyn ar y podlediad. Gwr dylanwadol iawn ym myd busnes, sefydliadau LGBTQ+, a chwmnïau cyfryngau a ffilmiau........ag un sy'n hoffi siarad! 😂😂

Nov 27, 202259:55
CYMERIADAU CYMRU: ELIN WYN WILLIAMS

CYMERIADAU CYMRU: ELIN WYN WILLIAMS

Hyfforddwraig bersonol syn dechrau gwneud enw i'w hun yw Elin Wyn Williams a fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. Ar ôl astudio a graddio mae Elin wedi dechrau ei busnes, Winning with a Y, sy'n nid yn unig helpu pobl gyda'r ochr gorfforol ond yr ochr feddyliol ag emosiynol hefyd ac mae ganddi angerdd ynglŷn â gwella iechyd meddwl a chorfforol. Mae hi yn 'rising star' yn fy marn i a dwi'n wir gobeithio y gwneith y cyfryngau talu sylw i'r ifanc yma o Sir Gâr.

Nov 20, 202245:13
CYMERIADAU CYMRU: LOWRI ANN RICHARDS

CYMERIADAU CYMRU: LOWRI ANN RICHARDS

Actores, cantores a chymeriad unigryw iawn sy'n cadw cwmni i mi wythnos hon....nid mewn stafell dawel ond mewn caffi bach digon swnllyd yng nghanol Llundain! (Felly maddeuwch i fi am y sain amherffaith ar brydiau!) Ond sgwrs hynod o ddiddorol a doniol a diolch o galon i Lowri Ann Richards nid yn unig am ei hamser ond am ei gonestrwydd a'i pharodrwydd i siarad am bopeth am ei bywyd, gyrfa, plentyndod, actio, canu mewn grwpiau mawr y 80'au, cyffuriau a llawer mwy! ''Cymeriad'' go iawn!

Nov 13, 202232:47
CYMERIADAU CYMRU: ROBAT ARWYN

CYMERIADAU CYMRU: ROBAT ARWYN

Y cyfansoddwr a'r cerddor Robat Arwyn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Talent go iawn sy di ysgrifennu caneuon ar gyfer corau ac unigolion di-ri! Sgwrs hynod o ddiddorol am ei waith a'i yrfa, ei ddylanwadau, cyfansoddi, corau a llawer mwy, yn ogystal â bach o hwyl efo cwis am gyfansoddwyr ar 10 cwestiwn chwim!

Nov 06, 202240:43
CYMERIADAU CYMRU: ALUN SAUNDERS

CYMERIADAU CYMRU: ALUN SAUNDERS

Fi wrth fy modd yn siarad â phob un o'r gwesteion ar Cymeriadau Cymru ond wythnos hon, nes i RILI fwynhau! Sgwrs ddifyr, ddoniol, onest a diddorol gyda'r actor, dramodydd, sgriptiwr a brenhines drag, Alun Saunders aka Connie Orff. Lot o chwerthin a sgwrs am bopeth o theatr a theledu, i drag, i'r iaith Gymraeg a llawer mwy. Joiwch!

Oct 30, 202247:08
CYMERIADAU CYMRU: MEILYR SIÔN

CYMERIADAU CYMRU: MEILYR SIÔN

Meilyr Siôn, actor, pypedwr ac awdur sy'n dweud y cyfan wrthai mewn sgwrs gret, am ei blentyndod, ei yrfa a dechreuadau, bod ar lwyfan sioe ''The Lion King'' a'i newid cyfeiriad fel awdur llyfrau i blant. Tipyn o all rounder! Wel.....ysgol Aberaeron ontife!😉

Oct 23, 202239:05
CYMERIADAU CYMRU: SIONED DAVIES

CYMERIADAU CYMRU: SIONED DAVIES

 Talent gerddorol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru ac i fyd opera. Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn ac yn mezzo soprano uchel ei pharch a phrysur sy'n dweud wrtha i am ei gyrfa ac yn siarad yn gwbl gyffyrddus am opera, eisteddfodau, Glasgow, Canwr y byd, sopranos a llawer mwy. Ac unwaith eto, yn gyfweliad â pherson clên, naturiol, onest a diddorol! Ymunwch â ni ac edrychwch am Cymeriadau Cymru ar Spotify, apple, google, anchor, Ypod ac amryw o lwyfannau eraill.

Oct 16, 202245:37
CYMERIADAU CYMRU: IFAN HUW DAFYDD

CYMERIADAU CYMRU: IFAN HUW DAFYDD

Yr actor Ifan Huw Dafydd sydd yn sgwrsio â fi tro yma ar Cymeriadau Cymru a bois, na chi actor! O Pobl y Cwm i District Nurse ac o Theatre Clwyd i Radio 4, ma Ifan wedi cael gyrfa a hanner! Cofiwch edrych am y podlediad a phob pennod ohoni ar Spotify a nifer o lwyfannau amrywiol.

Oct 09, 202238:50
CYMERIADAU CYMRU: DYLAN EBENEZER

CYMERIADAU CYMRU: DYLAN EBENEZER

Mae podlediad Cymeriadau Cymru nôl! Tymor newydd o sgyrsiau diddorol a naturiol gyda rhai o wynebau a lleisiau a chymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru. Ac i ddechrau tymor newydd, sgwrs gyda'r darlledwr a sylwebydd, a boi neis, Dylan Ebenezer. Cofiwch wrando ar pob pennod o Cymeriadau Cymru ar nifer o lwyfannau gan gynnwys Spotify.

Oct 03, 202244:41
CYMERIADAU CYMRU: JOHNNY TUDOR

CYMERIADAU CYMRU: JOHNNY TUDOR

''Entertainer'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon! Actor, dawnsiwr ac ''all round'' diddanwr, Johnny Tudor! Am fywyd!! Roedd hi'n bleser llwyr i sgwrsio â Johnny am ei yrfa, canu a dawnsio, ei ''big break'' ar Opportunity Knocks, ei gyfeillgarwch â Dorothy Squires, ei rhannau yn actio yn Gavin & Stacey, ei lyfr a llawer, llawer mwy! Fasen i wedi gallu siarad am oriau efo'r gwr dawnus a hoffus yma, sydd wedi dysgu Cymraeg mor dda, ac sydd§ dal yn gweithio! Diolch Johnny. 

Jun 23, 202237:42
CYMERIADAU CYMRU: DAFYDD IWAN

CYMERIADAU CYMRU: DAFYDD IWAN

Heblaw eich bod wedi bod yn byw mewn ogof yn ddiweddar, neu, yn wir, dros y 40 mlynedd a mwy diwethaf, fyddwch chi'n amlwg yn adnabod  llais a gwyneb fy ngŵr gwadd wythnos hon. Eicon go iawn, canwr a chyfansoddwr rai o ganeuon mwyaf adnabyddus, pwysig ag eiconig Cymru. Ie, neb llai na Dafydd Iwan! Beth all un ddweud am y gwr yma? Un o gymeriadau pwysicaf ein cenedl ni sy'n sgwrsio am ei fywyd, canu a cherddoriaeth, recordio, yr iaith ac ymgyrchoedd dros yr iaith a Chymru, yn ogystal â phêl droed, tîm Cymru ac wrth gwrs, cân y foment ar hyn o bryd, ''Yma o hyd''. Pleser ac anrhydedd oedd siarad gyda Dafydd a dwi'n wir yn gwerthfawrogi am iddo ymuno â fi wythnos hon.

Jun 16, 202249:27
CYMERIADAU CYMRU: REBECCA HARRIES

CYMERIADAU CYMRU: REBECCA HARRIES

Yr actores Rebecca Harries yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. I nifer wrth gwrs, Sali Mali, ond ma Rebecca wedi actio yn nifer o bethau gwahanol, yn Y Gymraeg ac yn Saesneg. Dwi di nabod Rebecca ers rhai blynyddoedd ac roedd hi'n bleser dal lan gyda hi a sgwrsio am ei gyrfa, bywyd, pryderon, byw yn Sir Gâr ac wrth gwrs, yr eicon ei hun, Sali Mali!

Jun 09, 202237:25
CYMERIADAU CYMRU: SHARON MORGAN

CYMERIADAU CYMRU: SHARON MORGAN

Actores o fri, adnabyddus a thalentog, SHARON MORGAN, yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad, ac anrhydedd oedd cael sgwrsio gyda hi am ei bywyd, gyrfa, actio, ennill 3 Bafta, Grand Slam, Ronnie Barker a llawer mwy! 

Jun 02, 202245:47
CYMERIADAU CYMRU: SHELLEY REES-OWEN

CYMERIADAU CYMRU: SHELLEY REES-OWEN

Stacey? DS Morgan? Neu Shirley Valentine? Ie, yr actores ddawnus o'r Rhondda, Shelley Rees-Owen sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad a gaethon ni lot o hwyl! Tan yn ddiweddar, mi roedd Shelley yn gynghorydd yn ogystal â bod yn actores ac mae hi di cael llwyddiant mawr gyda'r ddrama un person ac addasiad Cymraeg o Shirley Valentine.

May 26, 202246:18
CYMERIADAU CYMRU: GWENDA OWEN

CYMERIADAU CYMRU: GWENDA OWEN

Mae'n bleser cael siarad gyda nifer o bobl hyfryd ar y podlediad yma yn wythnosol, ac wythnos yma dwi'n cael sgwrsio ag un o'r mwyaf hyfryd! Gwenda Owen y gantores o Gwm Gwendraeth sy'n siarad yn hwylus ac yn agored am ei bywyd. Gyrfa, cerddoriaeth, ei hardal, actio a'i salwch rhai blynyddoedd yn ôl. Cefais y fraint o ganu gyda Gwenda yn 2012 a recordio cân i'w rhyddhau ar gyfer y radio, a braint hefyd oedd cyfweld â hi ar y podlediad. Un o'r bobl neisa' dwi'n nabod!!!

May 19, 202240:23
CYMERIADAU CYMRU: RYLAND TEIFI

CYMERIADAU CYMRU: RYLAND TEIFI

O Ffostrasol yng Ngheredigion i Dde Iwerddon yr aeth yr actor, cerddor a boi ffeind Ryland Teifi, ac o'i gartref yn Iwerddon wnaeth Ryland ymuno â fi am sgwrs wych ar gyfer Cymeriadau Cymru wythons hon. Lot o siarad a hwyl am ei yrfa, Y Cnapan, Iwerddon a'r teulu Clancy, canu, actio a'i brofiad yn ennill gyda chân Can i Gymru eleni....o, a chwis a 10 cwestiwn chwim! Gwych o sgwrs.


May 12, 202250:05
CYMERIADAU CYMRU: ALWYN HUMPHRIES

CYMERIADAU CYMRU: ALWYN HUMPHRIES

Anrhydedd yw cael croesawi fy hen ffrind Alwyn Humphreys i'r podlediad wythnos hon. Lejynd go iawn arall, yn arweinydd cerddorfeydd a chorau meibion, trefnydd darnau cerddorol a chyflwynydd teledu a radio. Diddorol dros ben oedd cael sgwrsio ag Alwyn am ei yrfa, cerddoriaeth, corau, canu, cyflwyno a llawer, llawer mwy. 

May 05, 202246:16
CYMERIADAU CYMRU: MARGARET WILLIAMS

CYMERIADAU CYMRU: MARGARET WILLIAMS

Dim byd llai nag eicon, lejynd a brenhines ar y podlediad wythnos hon. Y gantores hyfryd, hyfryd o Frynsiencyn, Ynys Môn, Margaret Williams!!!! Wrthi'n canu a pherfformio ers rhai blynyddoedd ar ein sgrin ac ar radio (yn ogystal â chanu ar y llongau ''cruise''), mi roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd cael siarad â Margaret am ei gyrfa, bywyd, canu, Sir Fôn a llawer, llawer mwy a dwi'n ddiolchgar iawn iddi am gytuno cael ei chyfweld.

Apr 28, 202247:47
CYMERIADAU CYMRU: LOWRI EVANS

CYMERIADAU CYMRU: LOWRI EVANS

Y gantores a'r gyfansoddwraig Lowri Evans yw fy ngwraig gwadd wythnos hon a thalent go iawn unwaith eto. Sgwrs hyfryd arall am gyrfa, cerddoriaeth a chyfansoddu, ardal Trefdraeth/Tudraeth, cwis, 10 cwestiwn a llawr mwy! Diolch o galon i Lowri a diolch yn fawr hefyd i Hannah Beth am fod ar y podlediad wythnos diwethaf.

Apr 21, 202238:33
CYMERIADAU CYMRU: HANNAH BETH

CYMERIADAU CYMRU: HANNAH BETH

Cyflwynwraig, dawnswraig, actores ac ''all-rounder'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon. Efallai mai i wylwyr ifanc S4C fydd Hannah Beth yn gyfarwydd ond ma'r fam ifanc o Lanelli yn aml-dalentog, yn gyfeillgar, positif ac yn......wel, jyst yn berson neis. Sgwrs hyfryd yn siarad am ei gyrfa, ei phrofiad o fod yn fam ifanc iawn, dawnsio ar y bar yn Sbaen, gwisgo pinc, cyflwyno i blant, actio a hyd yn oed helpu pobl ag anableddau. Merch â gwên pob amser yw Hannah ac roedd hi mor braf cael siarad â hi.

Apr 14, 202246:16
CYMERIADAU CYMRU: GARY SLAYMAKER

CYMERIADAU CYMRU: GARY SLAYMAKER

Cymeriad, strab a gwd boi sydd ar y podlediad wythnos yma. Yn ddigrifwr, sgrifennwr a chyflwynydd, mae Gary Slaymaker yn wreiddiol o Geredigion fel fi ac yn wyneb cyfarwydd ers rhai blynyddoedd bellach. Chwerthin???!!! Sgwrs a hanner am ei fywyd, ei yrfa, comedi a dylanwadau, sgrifennu a chyflwyno, deg cwestiwn chwim a chwis am gomediwyr! Yffach o bennod ac mi roedd hi'n bleser cael dal lan gyda Slay.....a chael chwerthin a rhegi!!!😂😂😂😂

Apr 07, 202251:06
CYMERIADAU CYMRU: BETHAN SAYED

CYMERIADAU CYMRU: BETHAN SAYED

I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon, neu o leiaf, i fyd cyn-wleidydd. Bethan Sayed (Jenkins) yw fy ngwraig gwadd hollol ffab ar y podlediad wythnos hon a sgwrs wych gyda hi am ei gyrfa, gwleidyddiaeth, Y Senedd, bod yn fam a gadael gwleidyddiaeth a llawer, llawer mwy. Ma Bethan, yn ogystal â bod yn fam frysur, yn parhau i ddiddori ac i fod yn rhan o weithgareddau pwysig yng Nghymru a cholled fawr y Senedd yw hi'n penderfynu gadael. Mae ganddi ddeallusrwydd siarp a bachog am bethau sy'n bwysig i bobl Cymru, yn ogystal â hiwmor ag agwedd ''down to earth'' a phleser odd ei chyfweld eto.

Mar 31, 202237:56
CYMERIADAU CYMRU: RHYS MEIRION

CYMERIADAU CYMRU: RHYS MEIRION

O bois bach, dyna chi ŵr gwadd wythnos hon! Y canwr opera a'r cyflwynydd teledu a radio RHYS MEIRION!!! Ie! Mae Rhys wedi canu dros y byd, yn Carnegie Hall a'r Albert Hall.....a llwyfannau Noson Lawen! Fe ges i'r fraint a lot o hwyl yn holi ac yn sgwrsio â Rhys yn ddiweddar, yn siarad am bopeth o opera i karaoke, yn ogystal â'r 10 cwestiwn a chwis bach. Boi clên dros ben yw Rhys ac fe wnes i fwynhau mas draw wrth siarad. Diolch hefyd i'r talentog Miriam Issac am y sgwrs yn y bennod ddiwethaf a chofiwch, mae pob pennod o Cymeriadau Cymru ar gael i wrando arnynt ar Spotify.

Mar 24, 202250:20
CYMERIADAU CYMRU: MIRIAM ISSAC

CYMERIADAU CYMRU: MIRIAM ISSAC

Talent go iawn unwaith eto ar y podlediad wythnos hon....fi mor lwcus i gael siarad gyda'r gantores a'r actores dalentog Miriam Issac. I ni di bod yn gweld wyneb Miriam ar ein sgrin ers rhai blynyddoedd bellach, gan amlaf yn canu gyda'i mam, Caryl, a gyda nifer fawr o gantorion mewn cyngherddau, sioeau a chystadleuaeth Chân i Gymru, ond erbyn hyn, mae hi hefyd yn actio ac yn actores comedi gwych. Pleser oedd cael siarad am ei gyrfa, cerddoriaeth, ei theulu, actio, a'i hymdrechion i roi sylw a chyfle i BAWB ar y sgrin. Diolch o galon i Miriam am ei hamser!

Mar 17, 202238:39
CYMERIADAU CYMRU: ANEIRIN HUGHES

CYMERIADAU CYMRU: ANEIRIN HUGHES

Actor o fri sydd ar y podlediad wythnos hon ac un sydd wedi actio yn y Gymraeg ar Pobl y Cwm, Dinas a nifer o bethau eraill, ac yn y Saesneg ar Eastenders, Casualty a Judge John Deed. A boi clên tu hwnt. Ond maint ohonoch oedd yn gwybod mai fel canwr opera y dechreuodd ei yrfa? Sgwrs ddiddorol a deallus gan un o wynebau mwyaf cyfarwydd a thalentog Cymru.

Mar 10, 202235:31
CYMERIADAU CYMRU: ALAW HÂF

CYMERIADAU CYMRU: ALAW HÂF

Wel, person gwadd gwbl wahanol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru. Petai chi di gwylio'r gyfres ar BBC3 ''Young , Welsh and bossing it'', mi fysech chi yn cofio stori'r ferch o'r Wyddgrug, Alaw Hâf, sy'n gwneud bywoliaeth fel model, a gyda dilyniant eang ar safle 'Only fans' (ymysg eraill). Ar ôl graddio yn y gyfraith, fe benderfynodd Alaw i wneud rhywbeth gwbl newydd ac unigryw! Sgwrs ddiddorol dros ben gyda merch hynaws a chyfeillgar a hoffus iawn a diolch iddi hi am fod mor naturiol ag onest am ei gyrfa, ei dewisiadau, yr ochr negyddol a dadleuol o'i gwaith a'i chynlluniau i'r dyfodol.

Mar 03, 202240:43
CYMERIADAU CYMRU: ALUN ELIDYR

CYMERIADAU CYMRU: ALUN ELIDYR

Ffarmwr a chyflwynydd. Neu gyflwynydd a ffarmwr? Y ddau! Alun Elidyr yw fy ngŵr gwadd ar y podlediad wythnos hon a sgwrs ddiddorol, onest, agored a difyr gan foi clên dros ben. Sgwrs am ffermio, actio, cyflwyno, amaethyddiaeth, iselder ysbryd ac iechyd meddwl, 10 cwestiwn chwim a chwis, a hyd yn oed y ''B Word''!!! Diolch o galon iddo am ei amser ac am siarad â fi yn ddiweddar.

Feb 24, 202248:06