Colli'r Plot
By Colli'r Plot
Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.
Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Colli'r PlotJul 17, 2021
Pennod y Sesiwn Fawr
Bydd y criw yn trafod pa mor bwysig yw lleoliad mewn nofel neu stori, gyda phwyslais arbennig ar Feirionnydd gan mai yn fanno mae'r Sesiwn, a'r Sesiwn sydd wedi ein gwadd ni i falu awyr y tro yma.
Bydd rhai o selogion y Sesiwn wedi gyrru cwestiynau ymlaen llaw.
Rhai call, gobeithio...
Pwysigrwydd siopau llyfrau
Yn y rhifyn yma yr ydym yn trafod pwysigrwydd siopau llyfrau i ni fel awduron a sut mae mynd ati i hyrwyddo ein nofelau.
Sut mae'r Steddfod wedi dylanwadu ar ein sgwennu, ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan Casia Williiam am ein hoff awduron Saesneg.
Jolis llenyddol ac adolygu llyfrau
Y tro yma, mi fyddwn ni’n trafod: jolis llenyddol, adolygu llyfrau pobl dach chi’n eu nabod, neu o leia’n nabod eu neiniau; pam ei bod hi gymaint haws prynu llyfrau Saesneg ac ydi Kath Jones Pobol y Cwm yn rhy ryff i brynu cyfrol y Fedal Ryddiaith?
Mi fyddwn ni hefyd yn trio ateb rhai o’r cwestiynau dach chi wedi eu gyrru atan ni. Daliwch ati i’w gyrru nhw beth bynnag. Dan ni’n siŵr o’u hateb nhw rhyw ben.
Mi naethon ni ddechre efo’r ateb roedd Bethan i ar dân i’w glywed, sef: ydyn nhw’n galw tumbleweed yn cabej bach ym Mhatagonia neu beidio?
Dylanwadau a chwestiynau call
Croeso i bennod 4 Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.
Yn y bennod yma yr ydym yn trafod y nofelau sydd wedi dylanwadu arnom ni, syrthio mewn cariad efo ein hoff awduron, ac yn clywed be' di’r term mae pobol Patagonia yn defnyddio ar gyfer 'tumbleweed'.
Mae Bethan ac Aled yn cymharu cyfarfod Stephen King ac yr ydym yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi.
Golygyddion
Dyma drydedd bennod Colli’r Plot gyda Siân Northey, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros.
Yn y bennod yma, er mawr syndod i bawb, mae Bethan Gwanas yn dyfynnu o'r Beibl.
Mae Manon yn parhau i synnu efo sawl gair mae hi'n gallu ei sgwennu mewn diwrnod, ac mae Dafydd yn dal ati i fod yr hyn nath Gwyn Siôn Ifan ei ddisgrifio fel ‘yr hen Dafydd Llewelyn ar ei ore'.
Mae’r pedwar yn ateb cwestiynau gan Seren Dolma, Anni Llŷn, a Rebecca Roberts.
Teipio rhyddiaith, sgwennu barddoniaeth
Croeso i ail bennod Colli'r Plot – sef podlediad gyda'r sgwennwyr – Manon Steffan Ros, Siân Northey, Bethan Gwanas a Dafydd Llewelyn.
Yn y bennod hon 'da ni'n trafod strwythur a sut ma' rywun yn mynd ati i 'sgwennu eu stwff.
Buom ni'n trafod plot a chymeriadau, a pha 'run sydd bwysicaf, ynghyd a sut 'da ni'n mynd ati i greu'n cymeriadau, gyda Manon yn cynnig sgŵp rhyfeddol i ni ac yn cyfaddef bod gwerthu pobl yn parhau i ddigwydd ym marchnad Machynlleth hyd heddiw.
Fuodd Siân yn trio egluro'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhyddiaith a barddoniaeth tra bod Gwanas dal i ddyfynnu pobl glyfar gan gyffesu ei bod efo soft-spot am Hemingway.
Pam dan ni’n sgwennu
Croeso i bodlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Siân Northey, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros.
Dan ni’n mynd i fwydro am sgwennu a llyfrau a bob dim dan haul, a dan ni’n mynd i drio cael testun i bob podlediad, ond nabod ni, mi fyddan ni’n mynd ar gyfeiliorn ac yn mynd i gyfeiriadau cwbl annisgwyl ac yn deud pethau doedden ni’m wedi bwriadu eu deud o gwbl.
Y testun cynta' - pam dan ni’n sgwennu yn y lle cynta’ a be sy’n ein hysbrydoli ni.
Diolch i Bandicoot am gael defnyddio'r gân wych O Nefoedd! ar gyfer cerddoriaeth y podlediad a diolch i’r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a helpu ni i Golli’r Plot.
Colli'r Plot yn dod yn fuan
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.
Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.
Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Diolch i'r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a'n helpu ni i Colli'r Plot.
Ac yn olaf diolch i Bandicoot am ddefnyddio'r trac O Nefoedd! ar gyfer y podlediad, mwynhewch!