Tu ôl i’r Wên
By meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd
Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.
Tu ôl i’r WênDec 20, 2021
‘’Da ni’n tyfu fyny fel pobl LGBTQ+ efo’r byd yn deud wrthan ni bod ni’n wrong’
Ym mhennod olaf y gyfres hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Iestyn Wyn, Elinor Lowri a Leo Drayton am eu profiadau o fod yn rhan o’r gymuned LHDTC+.
Rhybudd cynnwys: profiadau o homoffobia
Pethau perthnasol:
- ‘Problemau iechyd meddwl yn y gymuned LHDTC+ : Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn?’ - Elinor Lowri (meddwl.org)
- Robyn - Iestyn Tyne a Leo Drayton (y Lolfa, 2021)
- Cyfres ‘Ymbarél’ (Stwnsh | S4C)
- ‘OMG - Dwi mor OCD’ - Iestyn Wyn (meddwl.org)
- Podlediad ‘Esgusodwch fi?’
- Stonewall Cymru
- LHDT+ : meddwl.org
Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/
Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones
Dyluniad: Heledd Owen
'Ti’n lyfli fel wyt ti. Ti ddim yn gorfod newid . . . '
Yr wythnos hon, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Lauren Morais a Meg am fwlio, hunanhyder, hunan-werth, y cyfryngau cymdeithasol, a dysgu sut i garu ein hunain.
Rhybudd cynnwys: profiadau o fwlio.
Pethau perthnasol:
- ‘Effaith bwlio’ - Meg (meddwl.org)
- ‘Cyfryngau Cymdeithasol’ - Lauren (Hansh)
- ‘Gwybodaeth my love’ - Lauren (lysh.cymru)
- Lauren ar bodlediad ‘Gwrachod Heddiw’
- Bwlio : meddwl.org
- Hunan a hunan-barch : meddwl.org
Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/
Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones
Dyluniad: Heledd Owen
'Fi'n ok, fi dal 'ma, dal i fynd…'
Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Iestyn Jones a Gruff Jones am iselder, awtistiaeth, cerddoriaeth, a’r pwysau i gydymffurfio.
Rhybudd cynnwys: iaith gref
Pethau perthnasol:
- Cân ‘Tu ôl i’r wên’ - Iestyn Gwyn Jones
- Cerdd ‘Heno’ - Iestyn Gwyn Jones
- Gruff Jones ar bodlediad ‘Digon’
- Gruff Jones yn cymryd rhan yn y drafodaeth ‘Perfformio, ydi o’n dda i ni?’
- Iselder : meddwl.org
Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/
Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones
Dyluniad: Heledd Owen
'Ma' mwy i fi na jysd fy ngorbryder i'
Gorbryder sy’n cael ein sylw yr wythnos hon, ac mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Nia Morais a Siôn Jenkins am eu profiadau a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi.
Pethau perthnasol:
- ‘Dim cywilydd mewn derbyn bod gen ti broblem iechyd meddwl’ - Siôn Jenkins
- ‘Annwyl Nain’ - Nia Morais
- Nia ar bodlediad 'Gwrachod Heddiw'
- Gorbryder : meddwl.org
Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth
Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones
Dyluniad: Heledd Owen
'Sdim ots pa bwysau y'f fi, ma'r struggle dal 'na'
Yn ail bennod y podlediad, mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Lewis Owen a Holly Rhys-Ellis am eu profiadau o anhwylder bwyta, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi.
Rhybudd cynnwys: anorecsia
Pethau perthnasol:
- Cerdd Lewis, ‘Gwagle’
- Elusen Beat
- Anhwylderau Bwyta : meddwl.org
Sianeli YouTube:
Llyfrau:
- A Monk’s Guide to Happiness - Gelong Thubten (Hodder & Stoughton, 2020)
- Body Positive Power - Megan Crabbe (Ebury Publishing, 2017)
- Overcoming Binge Eating - Dr Christopher Fairburn (Guilford Press, 1995)
- Beating your Eating Disorder - Glenn Waller (Cambridge University Press, 2010)
Cyfrifon Instagram:
Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth/
Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones
Dyluniad: Heledd Owen
Sdim ffordd iawn i alaru
Yn y bennod hon mae Elin Llwyd yn sgwrsio gyda Sara Maredudd Jones a Rhys Bidder am eu profiadau o alar ar ôl colli rhiant yn ifanc, a’r hyn sy’n eu helpu i ymdopi.
Rhybudd cynnwys: marwolaeth, galar
Pethau perthnasol:
- Galar a Fi (y Lolfa, 2017)
- Reasons to Stay Alive - Matt Haig (Canongate Books, 2015). Gweler hefyd: Rhesymau Dros Aros yn Fyw (y Lolfa, 2020)
- The 4 Pillar Plan - Dr Rangan Chatterjee (Penguin Life, 2018)
- Sianel YouTube Yoga with Adrienne
- Podlediad How do you Cope?
- Profedigaeth a Galar : meddwl.org
Am gymorth arbenigol, ewch i: http://meddwl.org/cymorth
Cerddoriaeth: Iestyn Gwyn Jones
Dyluniad: Heledd Owen
Podlediad Tu ôl i’r wên
Podlediad newydd gan meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.
Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.