Pod Jomec Cymraeg
By Jomec Cymraeg/Y Darlledwyr
Pod Jomec CymraegNov 25, 2020
Pod Jomec Cymraeg 45- Dylan Griffiths
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru.
Yn y bennod yma, mae Owain Davies o flwyddyn 3, yn cyfweld a'r sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths.
Pod Jomec Cymraeg 44- ReniDrag
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru.
Yn y bennod yma, mae Poppy Goggin Jones o flwyddyn 1, yn cyfweld a'r You Tuber ReniDrag neu Tomas Gardiner! Erbyn hyn mae gan ReniDrag dros hanner filiwn o danysgrifwyr ar You Tube, ac fe yw un o You Tubers mwyaf llwyddiannus Cymru.
Jomec Cymraeg yn 10- Aled Biston (6)
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru.
Yn y bennod yma, Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld ag Aled Biston. Mae Aled yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i newyddion S4C.
Jomec Cymraeg yn 10- Melanie Owen (5)
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion.
Yn y bennod yma, mae Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Mae Melanie yn cyflwyno pods, yn gwneud 'stand-up' ac yn ysgrifennu colofnau. Dyma'i stori hi!
Jomec Cymraeg yn 10- Beth Williams (4)
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion.
Yn y bennod yma, mae Lois Jones o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Beth Williams, cyn- fyfyriwr yma yn JOMEC Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio gyda BBC Cymru. Mwynhewch.
Jomec Cymraeg yn 10- Catrin Lewis (3)
Yn y bennod yma, mae Efa Ceiri o’r drydedd flwyddyn yn sgyrsio gyda Catrin Lewis, cyn- fyfyriwr yma yn JOMEC Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio gyda Golwg 360. Mwynhewch!
Jomec Cymraeg yn 10- Dafydd Wyn Orritt (2)
Yn y bennod yma, mae Carys Williams – sydd yn astudio cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd – yn cyfweld a Dafydd Wyn Orritt sydd yn swyddog gweithredol cyfrif yn Equinox Communications.
Mae gan Carys uchelgais i weithio yn y diwydiant PR, ac felly, dyma hi’n holi Dafydd am ei brofiad prifysgol, ei yrfa hyd yn hyn, a’i farn am y diwydiant cyfathrebu.
Jomec Cymraeg yn 10- Tirion Davies (1)
Eleni mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion.
Yn y bennod yma mae Millie Stacey o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Tirion Davies.
Fe wnaeth Tirion graddio o JOMEC ar ôl astudio Cymraeg a newyddiaduraeth fel myfyriwr israddedig, cyn gwneud y cwrs MA darlledu, eto yn JOMEC. Mae Tirion nawr yn gweithio fel newyddiadurwraig radio i Global News.
Pod Jomec Cymraeg Eisteddfod yr Urdd 2023- Hansh x JOMEC
Rhifyn arbennig yw hwn am ddyfodol newyddiaduraeth ddigidol yng Nghymru. Cafodd y pod ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri, 2023.
Mae Lois Campbell o flwyddyn 3 yn sgwrsio gyda Ciara Conlon a Jess Clayton o dîm cynhyrchu Hamsh Dim Sbin/ITV Cymru.
Pod Jomec Cymraeg 43- Illtud Dafydd
Yn y rhifyn yma mae Jack Thomas o’r flwyddyn gyntaf yn siarad gydag Illtud Dafydd, newyddiadurwr ifanc a raddiwyd o JOMEC, sydd erbyn hyn yn gweithio yn y byd chwaraeon i gwmni AFP ym Mharis, Ffrainc.
Mae’r ddau’n sgwrsio am bencampwriaeth y Chwe gwlad a fu Illtud yn gweithio arno, Newyddiaduriaeth yn Ffrainc, a’r cyfleoedd mae Illtud wedi cael wrth iddo weithio ar rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwya’r byd. Mwynhewch!
Pod Jomec Cymraeg 42- Bethan Sayed
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ŵyl fyd-eang sy’n bwysig i’r mudiad hawliau menywod,
Mae’n dod a sylw i bynciau fel cydraddoldeb rhyw, hawliau atgenhedlu, thrais a cham-drin yn erbyn menywod.
Yn y bennod yma mae Megan Taylor a Gracie Richards yn sgwrsio gyda’r cyn-wleidydd Bethan Sayed.
Pod Jomec Cymraeg 41- Jess Davies
Mae Diwrnod rhyngwladol y Merched yn ŵyl fyd-eang, sy’n bwysig i’r mudiad hawliau menywod, ac yn dod a sylw i bynciau fel cydraddoldeb rhyw, hawliau atgenhedlu, a thrais a cham-drin yn erbyn menywod.
Yn y bennod yma mae Gracie Richards a Megan Taylor yn sgwrsio gyda Jess Davies- cyflwynwraig, ymgyrchydd a chyn-fodel.
Pod Jomec Cymraeg 40- Indigo Jones
Yn y bennod yma, ma Millie Stacey o'r ail flwyddyn yn siarad gydag Indigo Jones, cyn-fyfyriwr JOMEC a nawr yn gweithio i ITV Cymru.
Mae’r ddwy yn trafod Cymru, ein hiaith, ein newyddion , y cyfryngau cymdeithasol a chyngor i fyfyrwyr heddiw. Mae’n werth gwrando ar un yma!
Pod Jomec Cymraeg 39- Delyth Lloyd
Yn y bennod hon, Beca Dalis o'r ail flwyddyn sydd yn siarad gyda gohebydd chwaraeon BBC Chwaraeon a Radio 5 Live, Delyth Lloyd. Mae'r ddwy yn trafod dechrau gyrfa Delyth yn Aberystwyth, ei phrofiadau cyntaf yn y diwydiant, a Chymru yn Qatar!
Pod Jomec Cymraeg 38- Nic Parry
Yn y bennod hon, Ben Peris o'r drydedd flwyddyn sydd yn siarad gyda sylwebydd Sgorio Nic Parry, cyn-gyfreithiwr, barnwr ac un o leisiau mwyaf poblogaidd ym myd darlledu Cymru. Mae'r ddau yn trafod cwpan y byd, datblygiadau yn y byd sylwebu ac yn dadlau am y gêm ddarbi fwyaf yng Nghymru!
Pod Jomec Cymraeg- Rhifyn Torri Ffiniau Eisteddfod 2022
Dyma bennod arbennig o Pod Jomec Cymraeg sy'n rhan o bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd. Cyfle yw hwn i archwilio hunaniaeth drwy lygad cerddorion post-punk yn Aotearoa a hefyd yma yng Nghymru.
Fel rhan o webinar gafodd ei recordio yn hwyr y nos, mae Wairehu Grant, o Halftime, a'r darlithydd Gareth Schott yn Seland Newydd yn trafod effaith iaith, hunaniaeth, diwylliant, protestio, celf a bywyd ar gerddoriaeth ym mhen draw'r byd, a Rhys Mwyn yn hel atgofion am ei gyfnod yn Anrhefn tra'n cymharu ei brofiad e a'r gantores ym mand Chroma, Katie Hall.
Dyma drafodaeth onest am effaith colli iaith, yr euogrwydd, yr ail-gydio mewn diwylliant, a'r dathliadau o drawsffurfiad cerddorol dau sin ar yr ymylon.
***RHYBUDD: IAITH GREF MEWN MANNAU***
Pod Jomec Cymraeg- Eisteddfod 2022: Dom a Lloyd
Ar ol gwefreiddio Gwyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae disgwyl i "Pwy Sy'n Galw?" atseinio ar Faes B yn Nhregaron yr wythnos hon. Yn y bennod arbennig hon o Pod Jomec Cymraeg, mae Dom James a Lloyd Lewis yn siarad a Gwion Ifan o griw Llais y Maes am bopeth o'u cariad at greu cerddoriaeth gyda Don eu cynhyrchydd, eu breuddwyd i greu rhagor o ganeuon a fideos o safon, a pham eu bod nhw'n benderfynol o weddnewid delwedd yr iaith Gymraeg.
Pod Jomec Cymraeg- Rhifyn Eisteddfod Yr Urdd 2022- Dyfodol Digidol
Rhifyn arbennig yw hwn am ddyfodol newyddiaduraeth digidol. Cafodd y pod ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod yr Urdd o flaen cynulleidfa o eisteddfotwyr brwd.
Temi Smith newyddiadurwraig @hanshdimsbin sy'n arloesi o safbwynt newyddiaduraeth Gymraeg ar Tiktok, a Tomos Gruffydd Evans, un o raddedigion JOMEC sy bellach yn gwneud ei farc yng ngwasanaeth newyddion digidol @newyddions4c sy'n siarad a un o ddarlithwyr yr adran, Gwenfair Griffith.
Y Darlledwyr - 10 - Angharad Mair
Brenhines y soffa - Angharad Mair - yw'r gwestai yn y bennod yma. Un o gyflwynwyr a golygydd Heno, ac yn un o benaethiaid cwmni teledu Tinopolis, mae hi'n trafod ei gyrfa lwyddiannus gyda Lois Campbell o'r ail flwyddyn. Nid y byd darlledu yn unig sy'n cael sylw, ond sut y gallai taclo problem tai haf Cymru helpu sicrhau dyfodol yr iaith a faint yn fwy sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Y Darlledwyr 9 - Caryl Parry Jones
Dyma ddarlledwraig nid yn unig briliant, ond briliant piliant!
Mae Caryl Parry Jones wedi gwneud popeth o sgwennu rhai o ganeuon mwyaf iconic Cymru erioed, i fod mewn supergroups a dramau gorau S4C (Os nad y'ch chi wedi gweld Ibiza Ibiza, Steddfod Steddfod a Y Dyn nath Ddwyn y Dolig - get on it!).
Mae hi nawr yn cyflwyno Sioe Frecwast BBC Radio Cymru 2, ac yn fyd-wraig gerddorol i gymaint o deuluoedd drwy 'Can y Babis.' Yn y bennod yma, y gantores Gracie Richards o'r ail-flwyddyn yma yn Jomec sy'n cymharu nodiadau gyda hi am y byd cerddorol - a phopeth arall. Draw atot ti Gracie!
Y Darlledwyr 8- Jason Mohammad
Ma ‘da ni bach o football fanatic i chi!
Mae e’n Bluebird through and through, ac arweiniodd ei gariad at beldroed e i gyflwyno Final Score ar BBC 1. Mae Jason Mohammad yn adnabyddus dros Brydain gyfan fel cyflwynydd talentog. O ddarlledu’n gyson ar Radio Wales i Match of the Day a chyflwyno hefyd ar S4C - mae e’n siarad a Steff Leonard o flwyddyn 2 yn Jomec am ei daith i’r brig.
Y Darlledwyr 7 - Ciaran Jenkins
Yn holwr o fri ei hun - fe sy'n cael ei holi tro 'ma. Ciaran Jenkins, gohebydd Channel 4 sy'n ateb cwestiynau Gwion Ifan heddiw. Mae'r bachan o Ferthyr yn trafod popeth o deyrnged i Jon Snow, i bryder am ddyfodol ei sianel, a phwysigrwydd chwilio am stori newydd tra'n gohebu. O, ac mae e hefyd yn trafod y cyfweliad YNA gyda Michael Gove - gwerth gwrando!
Y Darlledwyr 6 - Lauren Jenkins
Lauren Jenkins, y newyddiadurwraig chwaraeon yw'r gwestai yn y bennod hon. Mae Aled Biston o’r cwrs ol-radd yn ei holi hi am bopeth o gyflwyno gemau ysgolion Cymru i gyflwyno gemau’r chwe gwlad. Mae hi hefyd yn trafod heriau gweithio'n llawrydd, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a sut mae hi wedi llwyddo neud cymaint o wahanol fathau o ddarlledu chwaraeon a dod yn lais cyfarwydd i ni gyd.
Y Darlledwyr 5 - Vaughan Roderick
Mae e'n lej yn ei faes - ac mae'n lej yn y sgwrs yma! Does neb yn gwybod mwy am ddarlledu gwleidyddiaeth Cymru na Vaughan Roderick! Yn y bennod hon mae e'n siarad a Jess Clayton o'r drydedd flwyddyn am dros 40 mlynedd o ddarlledu gwleidyddol fel newyddiadurwr hoyw. Mae e hefyd yn rhoi ei farn di-flewyn ar dafod am y 'drafodaeth wenwynig am bobl traws,' misogynistiaeth yn erbyn menywod mewn gwleidyddiaeth - a hefyd, ei hot-take am ddangos tuedd wrth ddarlledu. Mae'n werth gwrando!
Y Darlledwyr 4- Sian Lloyd
Dachi’n siwr o wybod erbyn hyn ein bod ni’n holi darlledwyr gorau Cymru am eu gyrfaon nhw - yr heriau a'r uchafbwyntiau.
Os taw dyma’r bennod gyntaf - mae treat i chi - gyda sgwrs rhwng Alyssa Upton o’r ail flwyddyn ag un o newyddiadurwyr amlycaf Cymru, Sian Lloyd.
Yma, mae hi’n siarad am sut yr aeth hi o fod yn ohebydd iechyd, i fod yn ohebydd rhwydwaith i’r BBC, i fod yn gyflwynydd Breakfast a gohebu i Crimewatch.
Nawr, mae hi’n gweithio yn llawrydd a newydd gyflwyno cyfres Efaciwis ar S4C, mae'n sicr yn werth gwrando ar hwn.
Y Darlledwyr 3 - Elin Fflur
Mae 'da ni treat i chi tro 'ma - un o'n trysorau cenedlaethol - Elin Fflur. Ar y pod heddiw, mae'n siarad a Malen Aeron o'r ail flwyddyn, sy hefyd yn dwlu canu!
Dechreuodd ei gyrfa yn ifanc iawn wrth iddi ennill Can i Gymru wrth ganu Harbwr Diogel ugain mlynedd nol. Hi sy'n cyd-gyflwyno'r rhaglen erbyn hyn! Ac o fod yn un o gyflwynwyr Heno S4C i gynnal sgyrsiau dan y Lloer, mae hi'n un o hoff gyflwynwyr y genedl. Ni’n ddiolchgar iawn i Elin am roi ei hamser i ni fyfyrwyr Jomec Cymraeg.
Y Darlledwyr 2 - Dot Davies
Dot Davies sy’n cael ei holi’n am bopeth o pam gafodd hi’r enw Wimbledot, i pam symud o ohebu ar chwaraeon i ohebu ar faterion cyfoes. Beth Williams o’r ail flwyddyn yn JOMEC sy’n ei holi hi.
Y Darlledwyr 1 - Huw Stephens
Dyma'r pod cyntaf yn y gyfres...gydag un o'n hoff ddarlledwyr ni yng Nghymru - Huw Stephens - a wnaeth Sara Williams ei holi am y cyhoeddiad cyffrous bod gŵyl 6 music ar ei ffordd i'r brifddinas.
Pod Jomec Cymraeg 37- Rhian Brewster
Yn y bennod hon Jess Clayton sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Rhian Brewster.
Mae Rhian wedi gweithio i nifer o sefydliadau yn y sector cyfathrebu, ac erbyn hyn mae hi'n bennaeth cyfathrebu World Wildlife Foundation yng Nghymru.
Pod Jomec Cymraeg 36- Owain Tudur Jones
Yn y bennod hon Ben Davies sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Owain Tudur Jones.
Mae Owain yn gyn-chwaraewr pêl-droed, enillodd Owain 7 cap dros Gymru, ac fe chwaraeodd i Abertawe, yn ogystal â chlybiau yn Lloegr, yn yr Alban ac yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ar ôl gorffen chwarae, symudodd Owain i fyd y cyfryngau, ac erbyn hyn mae fe'n aelod o dîm Sgorio ar S4C, mae fe'n gyflwynydd ar Heno ac ar raglenni plant. Dyma stori OTJ.
Pod Jomec Cymraeg 35- Owain Harries
Yn y bennod hon, Matt Bridge o’r drydedd flwyddyn sy’n holi swyddog y wasg Cymdeithas Pêl-droed Cymru Owain Harries.
Pod Jomec Cymraeg 34- Mali Thomas
Yn y bennod hon, Catrin Lewis o’r drydedd flwyddyn sy’n holi Cyfarwyddwr Cyfathrebu mudiad Urdd Gobaith Cymru, Mali Thomas.
Pod Jomec Cymraeg 33- Rhodri Jones
Yn y bennod hon, Rhys Evans o’r drydedd flwyddyn sy’n holi Rhodri Jones.
Roedd Rhodri yn chwaraewr pêl-droed Professional i gewri'r byd pêl-droed Manchester United rhwng 1996 a 2000. Ar ôl gorffen chwarae pêl-droed symudodd Rhodri i fyd y cyfryngau, yn gweithio yn y diwydiant teledu fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr. Erbyn hyn mae Rhodri yn hyfforddwr ffitrwydd meddyliol, a dyma fe yn rhannu ei stori gyda Pod Jomec Cymraeg.
Pod Jomec Cymraeg 32- Beti George
Yn y bennod hon Nel Richards o'r drydedd flwyddyn sy'n holi'r ddarllenwraig Beti George.
Fe ddechreuodd gyrfa Beti fel newyddiadurwraig lawrydd ar raglen Bore Da yn nyddiau cynnar BBC Radio Cymru - ac ers 1987 - mae hi wedi bod yn holi mawrion y genedl ar ei rhaglen eiconig Beti a'i phobl. Yn y bennod hon - mae'n trafod agweddau'r diwydiant newyddiadurol at fenywod a phobl hyn - a'i barn am newyddiadurwyr Cymru heddiw.
Pod Jomec Cymraeg 31 - Ashok Ahir
Yn y bennod hon, Gruff Edwards o’r ail flwyddyn sy’n holi Ashok Ahir. Yn Llywydd ar un o sefydliadau pwysicaf Cymru - y Llyfrgell Genedlaethol - mae Ashok wedi cael gyrfa ddisglair ym myd newyddiaduraeth a chyfathrebu gwleidyddol Cymru. Bu’n gyfarwyddwr cyfathrebu Llywodraeth Cymru, a hynny ar ôl gwerthu yr asiantaeth gyfathrebu roedd e’i hun wedi sefydlu ar y cyd a’i wraig. Cyn hynny, roedd e’n olygydd gwleidyddol i’r BBC yn Llundain a Chaerdydd. Wrth siarad a Gruff - mae’n dweud iddo wthio’r ffiniau yn y rôl honno - tra’n goruchwylio gwaith tîm o newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru - ac mae hefyd yn sôn am yr her barhaol o ddenu pobl ifanc at wleidyddiaeth.
Pod Jomec Cymraeg 30 - Helen Llewelyn ITV
Yn y bennod hon, y fyfyrwraig Malen Aeron sy’n holi Helen Llewelyn o ITV Cymru. Mae Helen yn gynhyrchydd dogfennau sydd wedi ennill canmoliaeth uchel am ei Gwaith – yn enwedig am y rhaglen Llofruddiaeth Mike O’Leary ar S4C. Yma mae’n trafod ffilmio o hofrennyddion yn ogystal a chyfrinachau cynhyrchu eraill….
Pod Jomec Cymraeg 29 - Non Tudur
Yn y bennod hon, Ffion Pirotte o’r ail flwyddyn yn Jomec sy'n holi Gohebydd Celfyddydol Cylchgrawn Golwg. Mae Non Tudur wedi bod yn ysgrifennu am fyd celfyddydol Cymru ers blynyddoedd ac yma, mae’n trafod effaith y pandemig ar newyddiaduraeth brint ac am sut i greu erthyglau nodwedd sy’n hawlio sylw.
Pod Jomec Cymraeg 28 - Alys Davies
Yn y bennod hon, Lowri Powell, sy’n astudio newyddiaduraeth, cyfryngau a diwylliant sy’n holi'r newyddiadurwraig ifanc Alys Davies o BBC Cymru Fyw. Ar ôl astudio hanes yn y brifysgol yn Llundain, ac yna athroniaeth yn Rhydychen, bu Alys yn byw yn Cheina am gyfnod cyn dechrau ar ei gyrfa newyddiadurol. Mae ar fin dechrau rôl newydd yn gweithio i BBC World online ac yn y sgwrs hon mae'n trafod dechrau gyrfa yn y byd newyddiaduraeth ddigidol Cymraeg a sut i greu straeon sy'n denu sylw arlein.
Pod Jomec Cymraeg 27 - Sian Stephen
Exctinction Rebellion yw un o'r grwpiau amgylcheddol sydd yn ennill y sylw mwyaf yn y cyfryngau yn y blynyddoedd diweddaraf. Yn y podlediad yma, Gracie Richards, sy'n astudio Cyfryngau a Chyfathrebu yn JOMEC sy'n holi Sian Stephen o Gaerdydd am ei rol hi yn datblygu ymgyrchoedd y grwp yng Nghymru. O lwyddiannau Gwrthryfel Difodiant, i'r cwyno am eu dulliau a'r gobeithion wrth i Cop26 ddirwyn i ben mae Gracie'n clywed y cyfan am sut i baratoi a threfnu ymgyrchoedd amgylcheddol gan grwp sy'n gwybod sut i hawlio'r penawdau.
Pod Jomec Cymraeg 26 Dafydd Thomas
Yn y bennod hon Steff Leonard sy’n astudio Cymraeg a newyddiaduraeth sy’n holi cynhyrchydd rhaglen deledu Sgorio Dafydd Thomas.
Mae Dafydd wedi cynhyrchu rhai o raglennu pêl-droed mwyaf yng Nghymru dros y degawd diwethaf, a dyma fe yn rhannu atgofion o'r cyfnod yna, yn ogystal â rhannu cyngor i unrhywun sydd eisiau gweithio yn y diwydiant.
Pod Jomec Cymraeg 25 Elen Davies
Yn y bennod hon Angharad Samuel sy’n astudio Cymraeg a newyddiaduraeth sy’n holi’r newyddiadurwraig Elen Davies.
Mae Elen yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn rhan o dîm cynhyrchu ITV Wales. Yn y sgwrs yma, mae’n trafod gweithio fel newyddiadurwraig ar raglennu 'Y Byd Yn Ei Le' ac 'Y Byd ar Bedwar', ei phrofiadau yn JOMEC, a'r daith o fod yn fyfyrwraig i'r byd newyddiadurol.
Pod Jomec Cymraeg 24 Tomos Evans
Yn y bennod hon, Beth Williams, sy’n astudio Saesneg a Newyddiaduraeth, sy'n holi Tomos Evans.
Yn gyn-fyfyriwr JOMEC a chyn-olygydd papur y brifysgol Gair Rhydd, mae Tomos bellach yn gweithio fel newyddiadurwr digidol ar gyfer platform digidol newydd S4C. Yn y sgwrs hon, mae Tomos yn trafod dechrau ei yrfa yng nghanol pandemig, y mathau o straeon sydd yn ei ysbrydoli e, a'i safbwynt ar ddyfodol newyddiaduraeth.
Pod Llais Heb Faes 6 - 2021 - Llio Maddocks
Awdur rhestr fer gwobr ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda'i nofel Twll Bach yn y Niwl, Llio Maddocks yn trafod popeth o gydsyniad rhyw i instagerddi ac ymateb ei mam i'w gwaith. Lois Campbell sy'n cael tips sgwennu, ac yn clywed barn Llio am ddyfodol llenyddiaeth Gymraeg a'r angen i gynnwys mwy o brofiadau LGBTQI + a phobl liw.
Pod Llais Heb Faes 5 - 2021 - Joseph Gnabo a Catrin Jones
CYMRAEG YN Y PAFILIWN : Gwersi Cymraeg drwy’r Arabeg yn cael ei gynnig am y tro cyntaf yn Grangetown! Nel Richards fu'n holi’r athro, Joseph Gnabo a’r trefnydd o Brifysgol Caerdydd, Catrin Jones. Yn y pod hwn, mae Nel yn clywed sut i ffoadur o Arfordir Ifori ddysgu Cymraeg a pharatoi i ddysgu'r iaith i eraill drwy gyfrwng yr iaith Arabeg yn un o ardaloedd mwyaf amlddiwylliannol y brifddinas
Pod Llais y Maes 4 2021 - Fflur Dafydd
Yn y pod arbennig hwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod 2021, yr awdures a'r dramodydd Fflur Dafydd sy'n siarad a Rhiannon Jones. O gyfrinachau creu golygfeydd nwydus yn 'Yr Amgueddfa' yn ystod cyfnod o ymbellhau cymdeithasol i tips am sut i lwyddo fel awdur a'i barn am gynhyrchiadau teledu dwy-ieithog - mae Fflur yn datgelu'r cyfan.
Pod Llais y Maes 3 2021- Connagh Howard
I gyd-fynd â takeover Llais Heb Faes 2021 🏴dyma drydedd bodlediad y gyfres ⚡️
Yn y bennod hon, Alyssa Upton sy’n cyfweld a Connagh Howard, un o sêr y gyfres hynod boblogaidd Love Island. O drafod pynciau ymysg ei brofiad yn y villa yn Ne Affrica at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Wrth i Connagh cofio nôl at ei dyddiau yn chwarae’r delyn a cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod. Gan beidio anghofio rhagfynegiad Connagh o bwy fydd yn ennill y gyfres eleni? 🤔
Pod Llais y Maes 2 2021 - Label Recordio I Ka Ching
Dyma'r ail bodlediad ar gyfer Llais y Maes 2021.
Sara Dylan yn cyfweld a Branwen Haf Williams i drafod label recordio I Ka Ching yn dathlu Penblwydd yn ddeg oed, gan edrych yn ôl ar rai o berfformiadau Gig y Pafiliwn 2021. Byddwn yn trafod yn union beth yw gwir gost cynhyrchu cerddoriaeth newydd i fandiau Cymru yn ogystal â thrafod beth yw dyfodol prynu a gwerthu cerddoriaeth yng Nghymru. Dysgwn am rai o uchafbwyntiau Branwen yn ystod ei chyfnod yn gweithio ar y label. Gwrandewch i glywed mwy....
Pod Llais y Maes 1 2021 - Manon Steffan Ros
🏴🎙TAKEOVER LLAIS HEB FAES 2021🎙🏴
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni, mae tîm cynhyrchu prosiect Llais Heb Faes 2021 yn cymryd drosodd Pod Jomec Cymraeg.
Yn y rhifyn hwn, mae Beca Nia, un o ohebwyr Llais Heb Faes 2021 yn holi un o awduron Cymraeg fwyaf gwerthfawr Cymru: Manon Steffan Ros. O drafod pryderon llenorion Cymraeg hunangyflogedig hyd at drafod pa mor ddigonol yw’r sylw a dderbynia menywod ym myd llenyddiaeth Gymraeg - a oes angen herio rhai sylwadau a damcaniaethau cynulleidfaoedd eang…?
Pod Jomec Cymraeg 23 Sion Jobbins
Yn y bennod hon Ben Davies sy’n astudio’r cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant sy’n holi Sion Jobbins.
Sion yw Cadeirydd Yes Cymru, mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru. Sefydlwyd Yes Cymru ym 2014 ac yn ddiweddar mae'r aelodaeth wedi tyfu yn sylweddol. Yn y podlediad yma, mae Ben a Sion Jobbins yn trafod be’ sydd tu ôl i’r tyfiant yma, strategaethau cyfathrebu'r mudiad, a rôl y cyfryngau cymdeithasol wrth edrych i’r dyfodol.
Pod Jomec Cymraeg 22 Damian Walford Davies
Drwy gydol wythnos Eisteddfod T mae ein myfyrwyr wedi bod yn rhannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol @JOMEC Cymraeg sy’n edrych ar fywyd Cymraeg yn y brifysgol.
Mae strategaeth newydd i’r Gymraeg eisoes wedi cael ei lansio, ond be mae’n olygu i fyfyrwyr? Dyma Nel Richards yn holi’r Athro ac aelod o dîm uwch rheoli Prifysgol Caerdydd, Damian Walford Davies.