Skip to main content
Rhywbeth Creadigol?

Rhywbeth Creadigol?

By Caerdydd Creadigol

Podlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd Rhywbeth Creadigol? yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf.

Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.
Available on
Apple Podcasts Logo
Google Podcasts Logo
Overcast Logo
Pocket Casts Logo
RadioPublic Logo
Spotify Logo
Currently playing episode

1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

Rhywbeth Creadigol?Feb 21, 2020

00:00
19:45
Rhywbeth Creadigol? 3:3 Iechyd Meddwl yn y Sector Creadigol – Beth Ddylen ni Ystyried?
Oct 21, 202131:53
Rhywbeth Creadigol? 3:2 - Cymru Creadigol i Bawb - Beth yw Dylanwadwr LHDTC+?
Oct 07, 202134:53
Rhywbeth Creadigol? 3:1 - Beth yw Dyfodol Technoleg Cymraeg?

Rhywbeth Creadigol? 3:1 - Beth yw Dyfodol Technoleg Cymraeg?

Ym mhennod cyntaf y gyfres, rydyn ni’n cael cwmni Dr Sarah Cooper a Dewi Jones o Brifysgol Bangor i siarad am ddatblygiadau diweddaraf ym myd technoleg Cymraeg. Mae Dr Sarah Cooper yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn arbenigo mewn seineg, dwyieithrwydd a thechnoleg lleferydd. Mae Dewi Jones yn Beiriannydd Meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor sydd yn datblygu meddalwedd a systemau technoleg Cymraeg. Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar dechnoleg lleferydd gan fod seinydd clyfar gan 57% o bobl yng Nghymru erbyn hyn, ac mae’n faes sydd yn datblygu a thyfu’n gyflym. Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.

Sep 24, 202133:58
Rhywbeth Creadigol? 2:3 - Sut Le Yw'r Dirwedd Ddigidol - O'r Gweithle I'r Gymuned?

Rhywbeth Creadigol? 2:3 - Sut Le Yw'r Dirwedd Ddigidol - O'r Gweithle I'r Gymuned?

Ym mhennod olaf yr ail gyfres rydyn ni’n siarad am y dirwedd ddigidol yng Nghymru, gweithio ar-lein yn Gymraeg a pharhau i ymgysylltu â chymunedau. Huw Marshall, cyn-bennaeth digidol S4C a sylfaenydd y cyfrif Twitter Yr Awr Gymraeg, ac Angharad Evans, Cynhyrchydd gydag Artis Cymuned, sy’n ymuno â ni ar gyfer y bennod hon. Rydyn ni’n sgwrsio am sesiynau hyfforddi wrth symud o'r swyddfa i'r cartref, defnyddio dwyieithrwydd i ddatrys problemau, yr heriau o ymgysylltu â chymunedau ar hyn o bryd ac effaith y cyfan ar ein lles.

Oct 15, 202028:23
2:2 - Sut I Annog Ffasiwn Meddylgar?

2:2 - Sut I Annog Ffasiwn Meddylgar?

Yn ail bennod yr ail gyfres rydyn ni'n sgwrsio am ffasiwn, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb gyda'r arlunydd Efa Lois sydd â phodlediad am siopau elusennol a Sylvia Davies sy'n rhedeg y busnes ecogyfeillgar, Eto Eto. Yn y bennod hon rydyn ni'n siarad am ymgymryd â meddwlgarwch ffasiynol, cyfrifoldeb brandiau i fod yn gynaliadwy, uwchgylchu a sut y gallwn ni fel unigolion ofalu am ein planed ac eraill trwy brynu llai a thrysori pob eitem sydd gennym.

Oct 01, 202034:38
2:1. Ydyn Ni'n Barod Am Ddiwylliant Digidol?

2:1. Ydyn Ni'n Barod Am Ddiwylliant Digidol?

Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r Cynorthwyydd Datblygu Creadigol gyda National Theatre Wales, Dylan Huw, a Phrif Weithredwr y platfform aml-gyfrwng diwylliannol AM, Alun Llwyd, yn siarad am ffrydio'r celfyddydau, blinder digidol a dyfodol theatr a diwylliant ar-lein. Mae AM yn gymuned aml-gyfrwng yn dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru ac ers lansio ym mis Mawrth mae wedi ffrydio Tafwyl a llu o waith celfyddydol arall gan gynnwys cynyrchiadau gan National Theatre Wales fel Go Tell The Bees. Mae National Theatre Wales wedi lansio Network,  rhaglen waith ddigidol newydd, a gynlluniwyd i gysylltu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr â chyfleoedd i greu a phrofi theatr fyw, arloesol a gyflwynir drwy lwyfan digidol.

Sep 17, 202034:11
1:3. Ydy Caerdydd yn Ddinas Cerddoriaeth?

1:3. Ydy Caerdydd yn Ddinas Cerddoriaeth?

Yn y drydedd bennod o 'Rhywbeth Creadigol?' rydym yn sgwrsio â DJ Bethan Elfyn a Katie Hall o'r band CHROMA, am yr hyn mae bod yn ddinas cerddoriaeth yn ei olygu i Gaerdydd a'r hyn mae'r sîn gerddoriaeth yn y ddinas yn ei olygu iddyn nhw. Mae Bethan Elfyn yn cyflwyno sioe ar BBC Radio Wales, yn cynnal prosiect Gorwelion sy’n cefnogi artistiaid newydd yng Nghymru a hefyd yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Katie ydy prif gantores y triawd Alt Rock o’r cymoedd, CHROMA.

Gwrandewch ar sengl ddiweddaraf Chroma, Tair Ferch Doeth, yma. 

Recordiwyd y bennod hon ym mis Ionawr 2020.

Mar 26, 202036:42
1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

Yn ail bennod Rhywbeth Creadigol? rydym yn siarad am y cysylltiad rhwng hapusrwydd a chreadigrwydd gyda'r artist aml dalentog, Ani Saunders. 

Mae Ani'n siarad am ei gyrfa greadigol hyd yn hyn a'i phrosesau creadigol fel cerddor, artist gweledol a ffotograffydd. Mae'n gwneud PhD ar hyn o bryd sy'n edrych ar sut a pham y mae trefi ôl-ddiwydiannol yng Nghymru'n newid ai peidio trwy ymchwilio mewn i'r cyd-destun gwleidyddol, economaidd a diwylliannol ehangach. 

Mae'n creu cerddoriaeth pop electronig yn Gymraeg ac yng Nghernyweg, dan yr enw Ani Glass. Mae ei sengl newydd, Mirores, yn gyfoeth o synth-pop breuddwydiol a bydd gweddill yr albwm yn cael ei gyhoeddi ar y 6ed o Fawrth gyda thaith o Gymru yn dilyn. 

Feb 21, 202019:45
1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

Ym mhennod gyntaf Rhywbeth Creadigol? rydym yn gofyn y cwestiwn 'Sut beth yw dylanwadu digidol?'. 

Ar ôl clywed sut mae Dr Francesca Sobande o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn diffinio dylanwadwr digidol, mae'r crewyr cynnwys digidol Megan Fflur a Llio Angharad yn rhannu eu syniadau a'u profiadau nhw. 

Mae gan Megan mwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif ffasiwn Instagram, mae'n llysgennad i Boohoo ac mae'n rhedeg siop ar lein o'r enw Pethau sy'n gwerthu dillad a phethau cartref. 

Mae Llio yn rhannu cynnwys ar-lein am y llefydd gorau i fwyta. Mae ganddi fwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif Instagram, mae'n llysgennad i Sainsbury's a Beco ac mae'n arbenigo mewn marchnata digidol i Lywodraeth Cymru, yn gweithio ar brosiectau iaith Gymraeg fel Dydd Miwsig Cymru. 



Jan 23, 202033:01