Help...SOS!
By hansahels
Help...SOS! Jul 20, 2020
Rhaglen 5: Pwysau Cymdeithas🏋️♂️
Ar ôl cwpl o sgyrsie gyda rai ohonoch chi ma' raglen heddi yn trafod pwysau cymdeithas arnom ni i edrych ffordd benodol‼️ Ni'n cyffwrdd ar brofiade Hanna o fethu gadel y tŷ heb golur a rhai Heledd yn trial bob diet dan yr haul o achos sylwadau pobl yn 'i byd hi💄🥗
Rhaglen 4: Joio byw CARU DUW🙌
Heno ni'n agor y sgwrs am grefydd tra'n son am ein ffydd personal ni☺️ Ma'n sgwrs ysgafn fydd gobeithio yn apelio at bob un ohonoch chi, heb ots am eich safbwynt chi ar grefydd‼️ All bobl 'crefyddol' fynd am beint? 🍻 Pam ma pethe gwael yn digwydd i bobl da? 👍 Dewch i glywed mwy! 🔥
Rhaglen 3: Yr 'hanner arall'
Wthnos yma ni'n son am gariad a'r hyn ni di dysgu am berthnase dros y blynyddoedd!👩❤️👨 Dewch i glywed am fathemateg Hanna am berthynas llwyddiannus a sut nath Heledd fynd o angen "ennill cariad" i "ffeindio unan hi"🤭‼️ #hansahels
Rhaglen 2: Y byd go iawn
Yn dilyn o'r rhaglen cynta' yr wythnos dwetha, dyma Rhaglen 2 lle ni'n son am fywyd ar ôl y brifysgol‼️👊 Dewch i glywed profiade Hanna fel merch yn ceisio torri mewn i faes Technoleg yn Llundain a'r hyrdls nath Heledd wynebu wrth ddod yn actores proffesiynol👩💻🎭#hansahels
Yn cyflwyno: Help...SOS
Cyflwyniad bach cloi i'r syniad tu ôl i'r podlediad a'r hyn allwch chi ddisgwl yn yr wythnosau i ddod!
Rhaglen 1: Y brifysgol
Ma'r podlediad cynta'n fyw‼️Dewch i ffeindio allan pam fuodd Heledd yn llefen bob nos a pam nath Hanna rhedeg bant i Lundain! 😬💃 #hansahels