Merched yn Gwneud Miwsig: Y Podcast
By Merched yn Gwneud Miwsig
Merched yn Gwneud Miwsig: Y PodcastNov 27, 2020
Branwen Williams
Yn bennod olaf yr ail gyfres o'r podcast, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda'r artist a sylfaenydd label I KA CHING - Branwen Williams. O dyfu fyny yn Llanuwchllyn a phrofi'r creadigrwydd o'i chwmpas hi, i ddilyn ei thad a mam o gwmpas theatrau Cymru a dysgu oddi wrth fenywod eraill Cwmni Maldwyn. Dechreuodd ei band gyntaf yn yr ysgol ac erbyn nawr, mae hi'n rhan o 3 band sefydledig - Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi a Blodau Papur, ac yn rhedeg y label annibynnol 'I KA CHING' sydd wrthi'n anelu at wella cynrychiolaeth menywod sy'n rhyddhau cerddoriaeth yng Nghymru.
Eädyth
Yn y bennod yma, clywn o'r artist, cyfansoddwr a chynhyrchydd Eädyth. O dyfu fyny yn Aberaeron a chanu gyda'i chwaer Kizzy yn yr Eisteddfod, i'w datblygiad yn y sîn electronig cerddoriaeth Cymraeg. Ar ôl blwyddyn rhagorol iddi, o ennill y Wobr Triskell a Gwobr 2020 Y Selar, i rhyddhau llwyth o senglau a gweithio ar brosiectau ar y cyd gyda phobl fel Ladies of Rage, Endaf ac Izzy Rabey, mae Eädyth nawr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r lwyfan unwaith eto.
Bethan Elfyn
Yn y bennod yma, bu'r darlledwr a rheolwr cynllun prosiect Gorwelion - Bethan Elfyn - yn hel atgofion o'i magwraeth yng nghanolbarth Cymru, yn tyfu fyny yn gwrando ar gasgliad recordiau'r 70au ei Mam. Mae'n sôn am ei chwildro cerddorol personol hi trwy ei chyflwyniad gyntaf oll i fiwsig pync, gweithio ac ymddiddori yn siopau recordiau annibynnol fel Spillers a throi ei chariad at gerddoriaeth mewn i yrfa wrth ddechrau sioe radio ei hun yn y brifysgol. Ac wrth gwrs, yn cychwyn ar Radio Cymru fel newyddiadurwr, cyn symud ymlaen at gyd-gyflwyno un o'n hoff sioeau radio'r 90au - 'Radio 1 Session in Wales', gyda Huw Stephens. Yn fwy diweddar, fe lansiwyd y BBC prosiect newydd o'r enw Gorwelion yn 2014, lle mae Bethan yn rheolwr cynllun sy'n pwysleisio pwysigrwydd rhoi amser a lle i leisiau newydd y byd cerddoriaeth yng Nghymru.
Georgia Ruth
Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres o podcast Merched yn Gwneud Miwsig, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda'r artist rhagorol Georgia Ruth. Yn trafod popeth o'i phlentyndod yn tyfu fyny yn Aber, gyda miwsig yn cael ei chwarae yn y tŷ'n ddi-baid, i astudio yng Nghaergrawnt, symud i Brighton, a gweithio gyda David Wrench. Nawr gyda 3 albwm allan ers rhyddhau'r sengl gyntaf bron i 10 mlynedd yn ôl, y diweddaraf 'Mai' wedi derbyn clod anferthol o bob man, mae Georgia Ruth yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r llwyfan yn hwyrach yn y flwyddyn.
Ani Glass
Pennod arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru! Yn y bennod yma, mae Elan Evans yn sgwrsio gydag Ani Glass (sef Ani Saunders) am dyfu fyny yng Nghaerdydd, symud i Lerpwl a Llundain, cyn dychwelyd i Gaerdydd. Mae'r cynhyrchydd ac artist pop electronig godidog yn sôn am sgwennu ei halbwm debut 'Mirores', ag enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac am ei datblygiad cerddorol o'r EP gyntaf 'Ffrwydrad Tawel'.
Calan
Pennod olaf yng nghyfres gyntaf Merched yn Gwneud Miwsig: Y Podcast! Yn y bennod yma, mae Elan Evans yn sgwrsio gyda Bethan ac Angharad o'r band werin Calan am sut bu'r ddwy yn cwrdd pan yn 14 oed a datblygiad eu cariad at gerddoriaeth werin. Mae'r ddwy hefyd yn sôn am sut mae eu byd wedi newid ers Cofid, a sut mae cadw momentwm i fynd o gwmpas rhyddhau albym newydd gyda ffrydiau byw yn lle gigs byw. Mae'r ddwy yn edrych at y dyfodol, gyda ffrwd byw arbennig iawn i ddod, yn Efrog Newydd gyda Bryn Terfel.
Rhagolwg: Calan
Ym mhennod olaf cyfres gyntaf Merched yn Gwneud Miwsig: Y Podcast, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda Bethan ac Angharad o’r band gwerin Calan. Yn y rhagolwg yma, mae Beth yn sôn am y trip a ddechreuodd y band pan oedd hi ond yn 14 oed, a sut mae ei chariad at werin wedi datblygu ers.
Hana Lili
Ym mhennod 3 o podcast Merched yn Gwneud Miwsig, mae Hana Evans (Hana Lili), yn sgwrsio gydag Elan Evans am ei thrawsnewidiad o'r byd 'pop pinc' fel Hana2k, i gynhyrchydd gyda sain fwy indie ac authentig i'w hun, fel Hana Lili. Yn debyg i lot o artistiaid Cymraeg, bu Hana yn tyfu fyny ar lwyfannau'r Eisteddfod, cyn sgwennu ei chân gyntaf yn 12 oed. Mae'n sôn am ei phrofiadau hi'n fenyw ifanc yn y diwylliant cerddoriaeth, a beth ysbrydolodd hi i ddatblygu sain newydd wrth symud i Lundain i astudio cynhyrchu yn y coleg.
Rhagolwg: Hana Lili
Yn rhagolwg yma o 3ydd bennod podcast Merched yn Gwneud Miwsig, bu Hana Lili yn trafod ei datblygiad o ‘Hana2k’ i Hana Lili, a sut mae’r newid wedi ail-frandio ei delwedd a’i miwsig i fod yn fwy onest i’w hun.
Kizzy Crawford
Ym mhennod yma o podcast Merched yn Gwneud Miwsig, mae'r artist Kizzy Crawford yn sôn am sut wnaeth hi dyfu fyny gyda fiwsig jazz yn chwarae o gwmpas ei thŷ, cyn ddarganfod ei dylanwadau personol. Bu'n trafod y cyfleoedd i berfformio yn yr Eisteddfod a wnaeth annog ei eisiau i berfformio ar lwyfan, ei hamser gyda phrosiect Gorwelion (Horizons), a'i phrofiad o weithio gydag Amy Wadge pan oedd hi'n 16 oed.
Rhagolwg: Kizzy Crawford
Bu Elan yn sgwrsio gyda'r artist Kizzy Crawford yn ail bennod podcast Merched yn Gwneud Miwsig. Yn y rhagolwg yma, mae Kizzy yn sôn am effaith positif cafodd yr Eisteddfod ar ei eisiau i berfformio, a sut mae hi am ysbrydoli ferched fel hi, i lenwi'r bwlch oedd yna pan oedd hi yn yr ysgol.
Y Gwefrau
30 mlynedd ers i’r Gwefrau ffrwydro ar sin gerddoriaeth Gymraeg Caerdydd, mae Beca a Gwenllian yn sgwrsio gydag Elan Evans am eu hamser byr yn un o bands fwyaf cŵl y 90au. Bu’r ddwy yn edrych nôl ar eu hatgofion niwlog o’r amser cyn ffonau symudol, o fod yn ffrindiau gorau yn Ysgol Glantaf, i ffurfio band a chwarae eu gigs cyntaf yn Clwb Ifor Bach, lle ffrwydrodd y sin roc Gymraeg.
Rhagolwg: Y Gwefrau
Ym mhennod gyntaf podcast Merched yn Gwneud Miwsig, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda Gwenllian Gravelle & Beca Evans, o'r grŵp pop adnabyddus y 90au - Y Gwefrau.