Ystafell Werdd Ieuan Rhys
By Ieuan Rhys
Wedi blynyddoedd o holi nifer o wynebau a lleisiau cyfarwydd ar ei gyfres i BBC Radio Cymru – Showbusnesan - mae Ieu nôl yn busnesan ym mywydau’r sêr.
Ystafell Werdd Ieuan RhysJun 24, 2020
Ioan Gruffudd - Rhan 2
Ieuan yn dal fyny gyda un o'r actorion Cymreig mwyaf llwyddiannus sydd bellach yn byw yn Hollywood, Ioan Gruffudd.
Ioan Gruffudd - Rhan 1
Ieuan yn dal fyny gyda un o'r actorion Cymreig mwyaf llwyddiannus sydd bellach yn byw yn Hollywood, Ioan Gruffudd.
Sue Roderick
O Borthmadog i Hollywood ac o Coronation Street i Gwmderi gan alw ym Minafon ar y ffordd - Sue Roderick yw un o actoresau mwya adnabyddus a phrysura Cymru.
Gareth John Bale
Yr actor o Ynysmeudwy sydd a theatr yn ei waed – o theatr mewn addysg i Shakespeare i’r perfformiad nodedig fel arwr Cymru – Grav.
Elen Bowman
O Sandra Coslett yn ‘Pobol Y Cwm’ i Frankie Butt yn ‘A Mind to Kill’ mae’r actores o Gwm Tawe bellach yn gyfarwyddwraig theatraidd nodedig yng Nghymru a thu hwnt.
Daniel Lloyd
P’un ai yn nghanol ‘Goleuadau Llundain’ yn sioe ‘The Commitments’ neu’n mynd o Eldon Terrace i gyfarwyddo Shane Williams mewn panto – Daniel Lloyd yw un o actorion prysura’r wlad a bellach i’w weld yn mynd ‘Rownd a Rownd’ yn wythnosol.
Catherine Ayers
O Gwmderi i Weatherfield o Byw Celwydd i Un Bore Mercher (Keeping Faith) - heb os - yr actores Cath Ayers yw un o wynebau mwya cyfarwydd Cymru a thu hwnt.
Rhys ap William
Yn actor ers yn ifanc iawn ('Steddfod! Steddfod!) a bellach yn wyneb cyfarwydd ar deledu a llwyfannau'r wlad - ac wrth gwrs fe yw 'llais y stadiwm' ar ddiwrnodau gemau rygbi rhyngwladol.
Gwawr Edwards
O’r Steddfod i Glyndbourn. O Neuadd Albert i Stadiwm Y Principality. Sgwrs gyda’r gantores hyfryd o Geredigion - Gwawr Edwards.
Stifyn Parri
Yr actor,diddanwr a’r entrepreneur yn son am ei daith o Rhosllanerchrugog i Brookside Close ac i’r West End a nol i Gymru.
Shelley Rees
Ieuan Rhys yn holi hen ffrind o ddyddie Pobol Y Cwm a Gwaith Cartref. Yr actores o'r Rhondda - Shelly Rees
Julian Lewis Jones
Yr actor o Frynteg gafodd fywyd llawn cyn iddo fynd i Goleg Drama ac un uchafbwynt o’I yrfa oedd cael cyd weithio gyda’r anfarwol Clint Eastwood.
Alun Saunders
Actor, cerddor, dramodydd a nawr Drag Act poblogaidd iawn-Connie Orff sy’n gyfrifol am sgriptionifer o bennodau ‘Gwaith/Cartref’.
Rhianna Loren
Actores ifanc o Ystrad Mynach yn son am bwysigrwydd Theatr Mewn Addysg a sut ga’th hi rhan Esyllt Ethni Jones yn y gyfres ‘Hansh’.
Phylip Harries
Yn adnabyddus fel actor ar Tan Tro Nesa, Halen Yn Y Gwaed ac Amdani ag hefyd fel ‘Dame’ gore Theatr Clwyd ond hefyd fe oedd ysgrifennydd The Mike Yarwood Fan Club!!
Angharad Lee
Yr actores o’r Rhondda sy’ bellach yn gyfarwyddwraig theatr yn son am ei hoffter o weithio oddi ar y llwyfan a’I hoffter o chwaraeon.
Gareth Lewis
Yr ‘hogyn o’r Felin’ - Dros 60 mlynedd yn actio o’I ddyddie fel plentyn gyda radio’r BBC ym Mangor at ei rhan enwoca – Meic Pearce yn Pobol Y Cwm.
Ffion Wilkins
r actores bu’n whare merch Philip Madoc yng nghyfresi Heliwr/Mind To Kill sy bellach yn gantores ac yn cymysgu gyda phobol fel Chris de Burgh.
Gareth Potter
Bellach yn DJ prysur a phoblogaidd ond unwaith aeth enwogrwydd yn drech pan fuodd yn rhan o gast EastEnders.
Sera Cracroft
Yr actores o Rhyd Y Foel sy’n adnabyddus fel Eileen yn opera sebon y BBC – Pobol Y Cwm ond fydd hefyd yn hel atgofion am ei gwaith ar Rownd a Rownd ac Amdani.
Cyflwyniad - Ieuan Rhys
Cyfres o bodlediadau lle fydd Ieuan Rhys yn holi nifer o actorion,cantorion,cyfarwyddwyr a dramodwyr am eu bywydau a'u gyrfaoedd.
A new Welsh language podcast